Medi 2019
Galway
Mae aelodau'r Côr yn edrych ymlaen i deithio i ddinas Galway yn Iwerddon ddiwedd mis Hydref eleni i berfformio mewn dau gyngerdd yng nghwmni côr merched Cana-mi-gei. Byddwn yn codi arian at Hospis Galway yn sgîl y daith. Byddwn yn aros tair noson yng ngwesty'r Imperial.
Aelodau Newydd – Côr ar i fyny
Ifor Jones, Jamie Randle
Crysau Polo
Mae ein crysau polo newydd wedi eu noddi gan gwmni R J Williams a'i Feibion, Talsarnau ac yn dangos logo Isuzu. Byddwn yn eu gwisgo mewn cyngerdd byr yn nhafarn y Llong, Talsarnau yn Nhalsarnau ar nos Fercher, Hydref 11 a hefyd yn yr Ŵyl Gwrw yn Llanbedr ar nos Wener, Medi 20.
Dyddiadur
Medi 20 – Gŵyl Gwrw Llanbedr am 6.00
October 11 – Ship Aground, Talsarnau am 9.00
|