English

 

Ffurfiwyd y côr yn 1953. Daw'r aelodau o fewn cylch o 10 milltir o Harlech, ardal lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith y mwyafrif o'r trigolion. Maent yn cynnal cyngherddau lleol yn aml ac maent wedi codi miloedd o bunnoedd at achosion da dros y blynyddoedd.

 

Yn y blynyddoedd diweddar, bu'r Côr ar deithiau i'r Alban, Llydaw, Denmarc, ac Awstria; hefyd i Loegr, Iwerddon a'r Almaen lawer gwaith.

 

Mae'r Côr yn edrych ymlaen at recordio CD newydd yn fuan. Mae sôn hefyd am daith i Norwy yn 2018. Mae'r Côr bob amser yn croesawu aelodau newydd.

 

Siop

 

Cd

Cynhelir ymarfer bob Nos Sul

 

Neuadd Gymuned Llanbedr

7.30 o'r gloch

 

Cliciwch yma os oes gennych diddordeb mewn ymuno.

 


 

Clwb 200

 

Gallwch ddod yn aelod am £9 a chael cyfle i ennill un o 72 o wobrau yn ystod y flwyddyn - a chefnogi'r Côr yr un pryd! Cysylltwch ag unrhyw aelod o'r Côr.

Taith i Galway yn 2019

 

Flag Gwlad Pwyl

 

Mae aelodau'r Côr yn edrych ymlaen i deithio i ddinas Galway yn Iwerddon ddiwedd mis Hydref eleni i berfformio mewn dau gyngerdd yng nghwmni côr merched Cana-mi-gei. Byddwn yn codi arian at Hospis Galway yn sgîl y daith.